Diwrnod NON Day premier, Oriel Y Senedd, Caerdydd, 2.3.23

Fel rhan o Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, mae’r gwaith sy’n cael ei rannu heddiw yn un elfen o’r gwaith creadigol dwi wedi cynhyrchu. Mae’r gwaith theatrig a barddonol o NON yn ddathliad o fam Dewi Sant, mam ddaear, a’i ddysgodd i wneud y pethau bychain, i arafu, i fyfyrio, i rannu gweledigaeth dyner. Drwy rannu saith stori am dyfu cywarch a chodi ymwybyddiaeth o gnydau bwyd a chynaliadwyedd Cymru’r Dyfodol, lles ac ymateb cadarnhaol i’r argyfwng hinsawdd. Mae’n ddathliad o ddefnydd a phwysigrwydd cywarch ar hyd yr oesoedd: o 7 mil o flynyddoedd yn ôl i’r dyfodol. Mae gwisg NON, y sanau a’r gwallt ar ei phen, i gyd wedi’u gwneud o gywarch.
Meddyliwch wrth fyfyrio – Pe baem ni fel cenedl yn diffodd un peth ar Ddiwrnod NON, sef dymuniad am ŵyl y Banc Cenedlaethol i Gymru, ar Fawrth 1af, byddai’r ystadegau effaith amgylcheddol yn syfrdanol.
Fel cyfarwyddwr creadigol, artist gweledol, cyfarwyddwr a chynhyrchydd angerddol, mae hi wedi bod yn bleser cyd weithio gyda cymaint o unigolion creadigol ar y prosiect yma, gan gynnwys Rhys Slade-Jones. Mae’r gwaith yma yn bartneriaeth rhwng dau Gymrawd Cymru’r Dyfodol.
___________________________________________________________________
Rhys Slade-Jones: Performer
Rhys Slade-Jones’ practice bridges cabaret, performance and craft and deals with ideas about place, history and identity. Rhys is also a Future Wales Fellow. https://www.instagram.com/boparhys
